|
Yn dilyn llwyddiant cyfres Dref Wen Storïau Hanes Cymru ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 bu galw mawr gan athrawon i ni ei hestyn.
O ganlyniad comisynodd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm, ac Asesu Cymru ddeuddeg teitl newydd ac mae’r gyfres nawr yn
cynnwys wyth teitl ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 yn ogystal â theitlau newydd ar gyfer Cyfnod Allweddol 1 a’r dosbarth derbyn.
Mae’r teitlau newydd yn dilyn y patrwm a sefydlwyd yn y llyfrau gwreiddiol gan gynnwys, wrth gwrs, lluniau manwl a deniadol.
Unwaith eto, awdur y gyfres yw John Evans, Ymgynghorydd Hanes, Powys.
Dangosir cloriau’r teitlau newydd gyferbyn.
Mae’r llyfrau:
Mae’r gyfres wedi’i threialu mewn ysgolion i sicrhau bod y llyfrau’n addas ar gyfer lefelau darllen yn y dosbarth derbyn,
blynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5 a 6. Maent hefyd yn cynnwys elfennau trawsgwricwlaidd ac yn cefnogi ABCh a’r Cwricwlwm Cymreig.
Ers cyhoeddi'r teitlau "William Morgan a'r Beibl Cymraeg" a "Jane Prichard Plentyn y Plas" fel llyfrau mawr rydym wedi
derbyn nifer fawr o alwadau gan athrawon yn gofyn i ni ddarparu gweddill y teitlau yn y gyfres yn yr un fformat. Yn achos y
teitlau newydd, byddwn yn cyhoeddi llyfrau mawr yr un pryd â'r fersiynau maint safonol ar gyfer y pedwar teitl CA1 i
flynyddoedd 3 a 4 CA2. Cofiwch ddweud wrth eich cydlynydd llythrennedd am y datblygiad pwysig hwn.
Fe fydd canllaw athro yn cyd-fynd â'r gyfres ac yn cynnwys cefndir a gweithgareddau ar gyfer y deuddeg stori.
| ||
O.M. Edwards a'r Welsh Not Cyfnod Allweddol 1: Blynyddoedd 1-2 |
Shirley Bassey Cyfnod Allweddol 1: Blynyddoedd 1-2 | |
Tadia a'i Theulu yn Isca Rufeinig Cyfnod Allweddol 2: Blynyddoedd 3-4 |
Harri Tudur Cyfnod Allweddol 2: Blynyddoedd 3-4 | |
John Davids a Phla Hwlffordd Cyfnod Allweddol 2: Blynyddoedd 3-4 |
Erddig: Bywyd y Gweision Cyfnod Allweddol 2: Blynyddoedd 3-4 | |
Merched Beca Cyfnod Allweddol 2: Blynyddoedd 5-6 |
Streic y Penrhyn Cyfnod Allweddol 2: Blynyddoedd 5-6 | |
Tommy Barrow: Ifaciwî yng Nghymru Cyfnod Allweddol 2: Blynyddoedd 5-6 |
Ivor England: Bywyd Glöwyr Cyfnod Allweddol 2: Blynyddoedd 5-6 |